Skip Navigation

  • Home
  • Contact us
  • FAQ
  • Glossary
  • Public key
  • Sitemap
  • Cymraeg
  • What's new
CPNI - Centre for the Protection of National Infastructure

Advanced search

  • About CPNI
  • The threats
  • Security planning
  • Methods of attack
  • Protecting your assets
  • Products and services
  • Research
Home > Cymraeg

Cymraeg

Daw'r wybodaeth isod o'r cynnwys a welir ar y prif wefan
Rôl yr CPNI yw amddiffyn y Deyrnas Unedig (UK) rhag bygythiadau i ddiogelwch gwladol, trwy roi cyngor awdurdodol ynghylch diogelwch ar draws y Seilwaith Cenedlaethol.

Bwriad y wybodaeth hon, sydd wedi'i hanelu at y rhai sy'n gyfrifol am ddiogelwch pobl eraill mewn busnesau a sefydliadau eraill, yw ceisio eich helpu i ddatblygu cynlluniau diogelwch effeithiol a sefydlu mesurau i amddiffyn eich sefydliad rhag brawychiaeth a bygythiadau eraill.

Cynllunio Diogelwch
Mae'r adran hon yn egluro mor bwysig yw nodi'r bygythiadau a rheoli'r risgiau i'ch sefydliad a datblygu cynllun dilyniant cynhwysfawr ym maes diogelwch a busnes.
Lawrlwytho PWYSIGRWYDD CYNLLUNIO DIOGELWCH PDF

Amddiffyn eich Asedau
Mae'r adran hon yn edrych ar fabwysiadu ymagwedd integredig tuag at ddiogelwch amddiffynnol, sy'n cynnwys mesurau diogelwch corfforol yn ogystal â chamau i reoli eich staff a'ch gwybodaeth yn ddiogel.
Lawrlwytho  GWARCHOD EICH ASEDAU Y DULL INTEGREDIG PDF

Gwarchod rhag Bomiau
Mae'r adran hon yn rhoi rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o fomiau sy'n cael eu defnyddio gan frawychwyr, er enghraifft bomiau mewn cerbydau a bomiau llythyr, manylion y gwrthfesurau ar gyfer pob math o ymosodiad, ac mae'n rhoi cyngor ynghylch delio â bygythiadau bomiau dros y ffôn.
Lawrlwytho GWARCHOD RHAG BOMIAU PDF

Y 10 Prif Ganllaw
10 prif ganllaw yr CPNI ar gyfer arferion diogelwch da yn gyffredinol. Bydd llawer ohonynt o gymorth i ddiogelu rhag trosedd yn ogystal â brawychiaeth a bygythiadau eraill i ddiogelwch.

Gallwch lwytho llawer o'r deunydd hwn ar ffurf llyfryn 38 tudalen, Protecting Against Terrorism (Adobe PDF, 880 Kb).

Mae deunydd o'r math hwn ar wefan gyhoeddus yn ddeunydd cyffredinol, trwy ddiffiniad. Bydd angen i chi ei deilwra ar gyfer eich amgylchiadau unigol ar sail eich asesiad eich hun o'r risgiau sy'n eich wynebu. Nid yw'r Gwasanaeth yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am y wybodaeth a roddir (gweler yr Ymwadiad).
Lawrlwytho ARFERION DIOGELWCH DA Y 10 CANLLAW UCHAF PDF

23/07/2007
  • Accessibility |
  • Terms and conditions |
  • Privacy statement |
  • Data protection act |
  • Freedom of information |